|
Comisiwn y Senedd |
|
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Llun, 17 Chwefror 2025 |
|
||||
|
Amser: |
10.30 |
|
||||
|
|
||||||
|
|
||||||
|
Cofnodion: SC(6)2025(2) |
||||||
|
|
|
|
||||
|
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Hefin David AS Janet Finch-Saunders AS Adam Price AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd Stephen Davies, Pennaeth Y Gwasanaethau Cyfreithiol Dros Dro, Comisiwn y Senedd Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Laurian Hubbard, Pennaeth Ymgysylltu Laura Williams, Pennaeth Cyfathrebu, Pennaeth Cyfathrebu Joanna Adams, Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad, Pwyllgorau Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 20 Ionawr 2025.
2 Materion y Seithfed Senedd
Trafododd y Comisiynwyr dri mater yn ymwneud â phontio i’r Seithfed Senedd: diweddariad ar raglen y Seithfed Senedd; cynllun yr ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer yr etholiad; a chymorth all-leoli.
2.a Diweddariad ar Raglen y Seithfed Senedd
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am raglen y Seithfed Senedd a’i gwaith wrth baratoi ar gyfer pontio i’r Seithfed Senedd.
Gwnaethant drafod defnyddioldeb cael diweddariadau ac ystyriwyd y potensial i wella rheoleidd-dra'r wybodaeth a ddarperir, yn ffurfiol neu'n anffurfiol. Holodd y Comisiynwyr am gwmpas y rhaglen a gofynnwyd am gadarnhad y byddai’n ddigon hyblyg i ymgorffori materion pellach sy’n dod yn berthnasol, er enghraifft datblygiad y Cynllun Ieithoedd Swyddogol nesaf neu ddeddfwriaeth ychwanegol.
Nododd y Comisiynwyr y papur.
2.b Cynllun ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Etholiad 2026
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer trydydd cam y cynlluniau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch newidiadau sy’n deillio o Fil Diwygio’r Senedd, a fydd yn dechrau ym mis Mai 2025, gyda blwyddyn i fynd, hyd at etholiad 2026.
Nododd y Comisiynwyr amcanion cyffredinol trydydd cam yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau i’r Senedd, cynyddu dealltwriaeth o rôl y Senedd a’i Haelodau, ac annog cyfranogiad o etholiad y Senedd. Cytunwyd ar y dull cyffredinol o ymdrin â thrydydd cam yr ymgyrch a'r dull o dargedu cynulleidfaoedd; gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys gwaith i ddatblygu partneriaethau corfforaethol gyda nifer o gyflogwyr yng Nghymru, ymestyn yr awgrymiadau a wnaed i gwmpasu Ochr yr Undebau Llafur a Ffederasiwn y Busnesau Bach; a rheoli sesiynau addysg mewnol i dimau er mwyn caniatáu amser i ysgolion â phobl ifanc 16-18 oed archebu slot ac yna rhyddhau'r slotiau sy'n weddill i bob grŵp oedran arall er mwyn parhau i ateb brwdfrydedd grwpiau ysgolion cynradd.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd fod gwaith yn parhau i bwyso a mesur cynnig ITV Cymru ac S4C am gyfres ddogfennol ar y Senedd gyda ffocws ar staff ac Aelodau, gyda gwaith ymgysylltu i ddigwydd gyda grwpiau’r pleidiau a gwybodaeth bellach i gael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn yn y dyfodol.
2.c Cymorth All-leoli
Trafododd y Comisiynwyr gwmpas y cymorth all-leoli (newid gyrfa) sydd i’w ddarparu i Aelodau a’u staff a fydd yn gadael yn sgil etholiad y Senedd yn 2026.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai darpariaeth all-leoli gael ei gwneud fel yr amlinellwyd yn y papur ar gyfer Aelodau sy’n gadael a’r rhai a fydd yn colli eu seddi, a’r holl staff cymorth a fydd yn colli eu swyddi. Teimlai’r Comisiynwyr y gallai rhai Aelodau elwa ar gael cymorth tebyg i’r hyn a gynigir wrth nesáu at ymddeol.
Byddai ymarfer caffael yn cael ei gynnal ar gyfer y cyfryw wasanaethau yn ystod 2025.
3 Defnydd Comisiwn y Senedd o Ddeallusrwydd Artiffisial
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod fframwaith ar gyfer y defnydd diogel, moesegol a chydymffurfiol o Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yng Nghomisiwn y Senedd.
Gwnaethant drafod persbectif gwahanol Apiau AI, a chafwyd sicrwydd am y gwaith a wnaed i sicrhau bod unrhyw raglen sy’n cael ei defnyddio gan y Comisiwn mor ddiogel â phosibl.
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chytunwyd ar ddull y Comisiwn o ddefnyddio AI.
4 Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu ar Gyfrifon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2023-24
Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi gwneud chwe argymhelliad i’r Comisiwn yn ei Adroddiad Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24.
Trafododd y Comisiynwyr yr ymatebion a chytunwyd arnynt. Bydd y llythyr yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd yn ei gyhoeddi fel rhan o bapurau cyfarfod y pwyllgor.
5 Ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad
Roedd y Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn ymwneud â’i adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i ymgynghoriad y Bwrdd, a nodwyd yr ymateb a anfonwyd gan y Prif Weithredwr a’r Clerc.
Nododd y Comisiynwyr y gallai cynnwys yr ymateb gael ei gynnwys yn yr adroddiad cyhoeddedig ar yr adolygiad blynyddol.
6 Papurau i’w nodi:
6.a Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd - Rhwymedi McCloud
Nododd y Comisiynwyr y goblygiadau treth posibl a nodwyd yn sgil gweithredu 'rhwymedi McCloud' ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (“y Cynllun”). Fe'u hysbyswyd y bydd y tîm pensiynau'n ysgrifennu at yr Aelodau yr effeithir arnynt yn nodi eu hopsiynau o dan y rhwymedi ac yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r Aelodau hynny wneud dewis ynghylch eu buddion pensiwn.
6.b Llythyr gan y Prif Weithredwyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â thrais ar sail rhywedd
Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi i Aelodau i gefnogi argymhelliad y Pwyllgor i Aelodau gael hyfforddiant ar atal trais ar sail rhywedd.
6.c Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynglŷn â’r Arolwg Urddas a Pharch
Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Urddas a Pharch. Bydd ymateb drafft yn cael ei baratoi ar gyfer ei gytuno mewn cyfarfod o'r Comisiwn yn y dyfodol.
6.d Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 18 Tachwedd 2024
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
6.e Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
7 Unrhyw fater arall
Codwyd cwestiwn mewn perthynas â rôl swyddogion cofrestru etholiadol ar gyfer cofrestriadau pleidleiswyr, a hysbyswyd y Comisiynydd bod modd gofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol am nodyn, er nad yw'n fater i'r Comisiwn.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi nodi:
· llythyr gan y Llywydd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a anfonwyd ar 13 Chwefror 2025, yn ymwneud â’r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth, a
· llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dyddiedig 28 Ionawr 2025, ynghylch penderfyniad y Comisiwn i symud ymlaen i gam caffael prosiect Bae 2032.